|
Roedd nos Sadwrn, Tachwedd 11eg, yn noson arbennig iawn yn hanes y Côr. A hithau'n gyfnod y cofio am y rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd, teithiodd y Côr i Dorchester on Thames, ger Rhydychen, i gymryd rhan mewn cyngerdd coffa arbennig iawn a drefnwyd gan Gôr Meibion Cymry Rhydychen. Daeth cynulleidfa o bum cant ynghyd yn Abaty hynafol Dorchester on Thames i wrando ar y ddau gôr yn canu detholiad o ganeuon gyda themau addas ac amserol megis galar, tristwch, colled, heddwch a chariad yn gwau drwyddynt. Braf oedd gweld nifer o bobl â'u gwreddiau yn ardal Dolgellau ond sydd bellach yn byw yng nghyffiniau Rhydychen, yn y gynulleidfa. Rhwng yr eitemau a gyflwynwyd gan y corau, darllenwyd nifer helaeth o gerddi ar y thema Rhyfel, ond yr hyn a oedd yn arbennig iawn ynglyn â hyn oedd mai'r darllenwr oedd y Gwir Barchedig Ddr. Rowan Williams, Archesgob Caergaint. Roedd Dr Williams wedi dethol cerddi gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru, yn eu mysg Aneurin, Dylan Thomas, Vernon Watkins, Gillian Clarke, Gwyneth Lewis a Waldo Williams. Y ddwy gerdd olaf a darllenwyd ganddo oedd Dream a Jerusalem Limestone, cerddi o'i eiddo ef ei hun. Yr oedd cael yr anrhydedd o rannu llwyfan â'r gwr addfwyn a duwiol hwn yn brofiad a erys yng nghôf aelodau'r ddau gôr am flynyddoedd maith. Bydd dwy elusen, sef Apêl Papi Coch y Lleng Brydeinig a Chymdeithas Alzheimer, yn rhannu elw'r noson. Saturday, November 11th, 2006 was a very special night in the Choir's history. An audience of approximately five hundred people gathered in the ancient abbey at Dorchester on Thames, a few miles to the south of Oxford, for a Remembrance concert arranged by and featuring the Oxford Welsh Male Voice Choir, together with the Dolgellau and District Male Voice Choir. Between the items presented by the choirs poems emphasising the horrors and futility of war were read by the Rt Revd Dr. Rowan Williams, Archbishop of Canterbury (see right). All the poems read were written by notable Welsh poets, past and present, including Aneurin, Dylan Thomas, Vernon Watkins, Gillian Clarke, Gwyneth Lewis and Waldo Williams. The final two poems read were composed by Dr Williams himself. It was indeed an honour to share a platform with this gentle and devout man and memories of the concert will remain with the members of both choirs for many years to come.The proceeds from the concert will be shared between the British Legion Poppy Appeal and the Alzheimers Society.
|
|