Roedd côr meibion llwyddiannus iawn yn Nolgellau yng nghanol yr ugeinfed ganrif, ond yn anffodus daeth i ben yn ystod y 1970au.
Daeth y côr presennol i fodolaeth ar ddechrau 1986. Bwriadwyd ef i fod yn barti bychan a fyddai'n mynd o amgylch i ddiddanu cymdeithasau, yr henoed mewn cartrefi gofal ayyb. ond roedd cymaint o ddiddordeb fel y bu'n rhaid ffurfio côr.
Nid yw'r côr yn cystadlu'n aml, ond mae'r aelodau'n mwynhau cyd-ganu a theithio i ddifyrru cynulleidfaoedd pan ddaw cyfle. Maent yn mwynhau cymdeithas gartrefol, hwyliog â'i gilydd.
Mae'r côr wedi teithio i Loegr, yr Alban, Iwerddon a Llydaw yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac y mae cyfeillgarwch arbennig rhwng aelodau'r côr a chôr Clef de Sel, Guérande, sef côr cymysg gefeill-dre Dolgellau yn Llydaw. Ym mis Hydref, 2004, ymwelodd y Côr â thalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, y tro cyntaf i'r Côr ymweld â'r wlad arbennig hon.
Mae rhai darnau clasurol yn rhaglen y côr, ond bychan yw nifer yr aelodau, felly mae rhain yn gallu bod yn straen ar y lleisiau. Cenir caneuon ysgafn, poblogaidd yn Gymraeg a Saesneg, alawon gwerin Cymreig, caneuon allan o sioeau, yn ogystal ag emyndonau. Wrth ymweld â gwlad arall, rydym bob amser yn ceisio perfformio un gân o'r wlad honno, a hynny yn yr iaith frodorol.

Ein harweinyddes
Mrs Geunor
Roberts.