America!

Tra ar ein ffordd i Utica gwelsom lori fawr, sef "Mobile Chapel - Transport for Christ " (gweler chwith uchod). Gyda chymaint o gapeli ein gwlad yn cau, ai dyma'r ateb? Dipyn o gamp fyddai mynd â hi i Abergeirw! `Roedd llawer o bobl yn mynd i drafferth i addurno eu cartrefi a'u gerddi gydag addurniadau Calan Gaeaf (gweler y llun uchod).`Roedd yr ymgyrch ar gyfer yr Etholiad Arlywyddol yn ei hanterth tra roeddem yn America ac `roedd sticeri a phosteri yn cael lle amlwg yn ffenestri ac yng ngerddi tai (gweler isod ar y chwith). Roedd lliwiau'r hydref yn eu gogoniant a'r "Fall", fel y'i gelwir, yn werth ei weld, yn enwedig gan fod Talaith Efrog Newydd mor goediog (gweler isod).
During our journey to Utica we saw a large, articulated lorry, a "Mobile Chapel - Transport for Christ " (see above left). With so many of our chapels closing on a permanent basis, could this be the answer? Wouldn't fancy driving it to Abergeirw, though! Halloween decorations were very apparent, especially in the rural towns and villages (see above right).The Presidential Election campaign was at its height whilst we were in America and posters and stickers were to be seen in many house windows and gardens (see below left). The magnificent colours of the "fall" were certainly worth seeing, especially as New York State is so wooded (see below).