Cyngherddau/Concerts

Cynhaliwyd cyfanswm o bedwar cyngerdd llawn yn ystod y daith, ynghyd ag un cyngerdd bach i aelodau Clwb Rotari Binghampton. Cynhaliwyd y cyngerdd cyntaf yn y First United Methodist Church yn New Hartford, ger Utica, yr ail yn y First Presbyterian Church, Ithaca, y trydydd yn neuadd Ysgol Uwchradd Montrose, Pensylfania a'r cyngerdd mawreddog olaf yn y First Presbyterian Church (gweler y llun dde isod) yn Binghampton, Talaith Efrog Newydd. Tynnwyd y llun uchod o'r Côr yn y capel hardd yn Ithaca, sef y dref sydd yn gartref i brifysgol enwog Cornell. Ar y dde uchod, fe welwch luniau o'r ddau unawdydd ifanc a ddaeth gyda ni ar y daith, sef Sioned Wyn o Ddolgellau ac Edryd Williams o'r Bala. Yn y llun hefo Sioned y mae ei mam, Lilian Huws, ac hefo Edryd y mae ei dad, Peredur. Cafwyd cynulleidfaoedd da iawn ym mhob cyngerdd, yn enwedig felly yn New Hartford a Binghampton ble `roedd y capeli yn llawn hyd at yr ymylon. Mae'r llun isod ar y chwith yn dangos y Côr ar ei ffordd i Ysgol Uwchradd Montrose.
A total of four full concerts were held during the Tour, together with one mini-concert for members of the Binghampton Rotary Club. The first concert was held at the First United Methodist Church in New Hartford, Utica, the second at the First Presbyterian Church, Ithaca, the third at Montrose High School, Pennsylvania and the last grand concert was held at the First Presbyterian Church (see photo bottom right) in Binghampton, New York State. The above photo of the Choir was taken at the Church in Ithaca, which is the home of the renowned Cornell University. The photos top right show the two young soloists who accompanied us on our tour, namely Sioned Wyn from Dolgellau and Edryd Williams from Bala. With Sioned in the photograph is her mother Mrs Lilian Huws and with Edryd is his father, Mr.Peredur Williams. Each concert was very well attended, especially so the concerts at New Hartford and at Binghampton, where it was virtually a case of standing-room only! The photograph below left shows the Choir en route to Montrose High School.