Mae'r Côr yn ymarfer am 8 o'r gloch ar nos Fercher, a hynny yn Ysgol Gynradd Dolgellau neu yn Nhy Siamas (bob yn ail wythnos).'Rydym yn croesawu ymwelwyr a darpar aelodau newydd i'n hymarferion.
Dyma arwyddlun y Côr. Arno fe welwch bedair o nodweddion amlycaf yr ardal. Yn y cefndir gwelir Cadair Idris, un o fynyddoedd enwocaf Cymru. O'i flaen, saif Eglwys y Santes Fair a'r Bont Fawr, gyda'r Afon Wnion yn llifo oddi tani.